Mick Antoniw AS
 Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
15 Tachwedd 2021

Annwyl Mick

Fframweithiau Cyffredin

Yn ein cyfarfod heddiw, gwnaethom nodi’n ffurfiol eich llythyr dyddiedig 8 Tachwedd, lle gwnaethoch roi gwybod inni y byddai cyfarfod gweinidogol pedairochrog ar fframweithiau cyffredin yn cael ei gynnal ar 10 Tachwedd.

Rydym yn ddiolchgar ichi am ddarparu gwybodaeth i ni ynghylch pwy oedd i fod yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw a beth fyddai ffocws y trafodaethau, ynghyd â rhestr o’r eitemau ar yr agenda ddrafft.

Rydym yn cydnabod eich bod wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch canlyniadau’r cyfarfod pedairochrog o fewn pythefnos i’w gynnal. Serch hynny, mae nifer o gwestiynau yr ydym yn dymuno eu gofyn ichi nawr, fel y gellir ymdrin â hwy cyn gynted ag y bo modd.

Byddwch yn cofio imi ysgrifennu atoch ym mis Gorffennaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen fframweithiau cyffredin. Roedd y llythyr a anfonwyd gennych mewn ymateb, dyddiedig 7 Medi, yn ddefnyddiol iawn inni o ran asesu a chynllunio ar gyfer y llwyth gwaith a ragwelir. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech ddarparu'r eitemau a ganlyn:

1.          y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen fframweithiau cyffredin, gan gynnwys y cynnydd a wneir tuag at gytundeb ar sut y bydd y fframweithiau'n ymdrin â rhwymedigaethau rhyngwladol a sut y byddant yn rhyngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a Phrotocol Gogledd Iwerddon;

2.         dyddiad wedi'i gadarnhau (neu ddyddiad tebygol) ar gyfer cyhoeddi pob fframwaith dros dro sydd ar waith ar hyn o bryd, a hynny er mwyn sicrhau tryloywder i randdeiliaid y bydd y penderfyniadau a wneir ar gyfreithiau a pholisïau yn y meysydd hyn yn effeithio arnynt;

3.         y dyddiad erbyn pryd y mae Llywodraethau'r DU yn disgwyl y bydd yr holl fframweithiau cyffredin wedi bod yn destun gwaith craffu gan eu priod Seneddau ac yn destun gwaith i’w cwblhau yn dilyn hynny.

Yr wyf yn anfon copi o'r llythyr hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddwn yn gwerthfawrogi ymateb erbyn 25 Tachwedd 2021.

Yn gywir,

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd